Bron nad aeth enw Henry Richard yn angof erbyn heddiw, eto yn ail hanner y 19eg ganrif ef oedd Cymro enwocaf ei gyfnod, a'i enw'n adnabyddus â pharch iddo ymhlith gwleidyddion ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau. Dyma'r gyfrol gyflawn gyntaf ers dros canrif i'w hysgrifennu yn y Gymraeg am Henry Richard (1812-88), yr heddychwr a'r gwladgarwr o Dregaron. Rhoddodd Henry Richard ei stamp ar y mudiad heddwch ym Mhrydain, a chofir amdano fel amddiffynnwr y Cymry yn wyneb ymosodiadau diwylliannol - megis adroddiad y 'Llyfrau Gleision' ar addysg yng Nghymru yn 1847 - a dylanwad yr Eglwys Anglicanaidd. Bu'n ysgrifennydd ar y Gymdeithas Heddwch am yn agos i ddeugain mlynedd, gan ddod i amlygrwydd rhyngwladol fel lladmerydd y mudiad heddwch, ac fel ymgyrchydd dros gyflafareddu a diarfogi. Yn dilyn ei ethol yn aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdâr yn 1868, ef yn anad neb a adwaenid fel 'Yr Aelod Dros Gymru', a chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad addysg yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu colegau prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd.
Gwyn Griffiths hails from the birthplace of Henry Richard, and has written the history of composing Hen Wlad fy Nhadau and the history of Sioni Winwns.